Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 16 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.46 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Christine Chapman AC Paul Davies AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Peter Black AC, Comisiynydd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad Craig Stephenson, Comisiwn y Cynulliad Dave Tosh, Comisiwn y Cynulliad |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a chan Peter Black ar gyfer eitemau 1-5.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (30 Mehefin 2014)
2.2 Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
3 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.
4 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil
6.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ateb cwestiynau ar oblygiadau ariannol y Bil ar y cam hwn, ond y byddent yn ysgrifennu ati i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
6.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.
7 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil
7.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ateb cwestiynau ynghylch goblygiadau ariannol y Bil, ond y byddent yn ysgrifennu ato i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
7.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.
8 Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. Nodwyd y byddai'n cael ei gyhoeddi ar 24 Gorffennaf.